#

Y Pwyllgor Deisebau | 11 Mehefin 2019
 Petitions Committee | 11 June 2019
 
 
 ,Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth 

 

 

 

 


Papur briffio gan Ymchwil y Senedd:

Rhif y ddeiseb: P-05-880

Teitl y ddeiseb: Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth

Cynnwys y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i lunio Cynllun Cenedlaethol brys ar gyfer addysg cerddoriaeth gydag arian canolog penodol, yn unol â gweddill y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod gwersi offerynnau cerdd a hyfforddiant llais fforddiadwy ar gael fel hawl i bob plentyn yng Nghymru.  

§  Mae’r Gwasanaethau Cerddoriaeth yng Nghymru yn rhan annatod o ddatblygiad addysg cerddoriaeth fel rhan o’r cwricwlwm creadigol ar draws pob maes.

§  Mae’r cyfraniad a wneir gan y diwydiant a’r gwasanaethau cerddoriaeth i economi a llesiant pobl Cymru yn rhy bwysig i’w anwybyddu.

§  Mae nifer y bobl ifanc sy’n astudio cerddoriaeth ar lefel Uwch yng Nghymru wedi haneru mewn deng mlynedd ac mae nifer y cofrestriadau ar gyfer arholiadau TGAU wedi lleihau 40 y cant.

§  Nid yw cyni yn esgus i Lywodraeth Cymru ganiatáu dirywiad ein Gwasanaethau Cerddoriaeth. Dylai cyni fod yn rheswm dros fuddsoddi yn yr hawl cyfartal i bawb gael gwasanaethau, a chynaliadwyedd ein cymunedau.

1.    Cefndir

Er bod cerddoriaeth yn bwnc yn y cwricwlwm cenedlaethol ar hyn o bryd, bwriedir i wasanaethau cerddoriaeth gefnogi a gwella’r modd y caiff cerddoriaeth ei haddysgu mewn ysgolion trwy ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddysgu ystod eang o offerynnau, datblygu canu a pherfformio mewn ensemblau, corau, a grwpiau eraill, yn yr ysgol, yn y gymuned ehangach, ac ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Mae gwersi canu ac offerynol allgyrsiol yn cael eu darparu gan staff teithiol, y tu allan i wersi, ond yn ystod oriau ysgol.

Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darparu ac ariannu gwasanaethau cerddoriaeth anstatudol. Caiff cyllid Llywodraeth Cymru ei ddarparu drwy’r Grant Cynnal Refeniw, ac mae awdurdodau’n gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar eu blaenoriaethau lleol. 

2.  Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

O ganlyniad i’r pwysau sydd ar gyllidebau gwasanaethau cerddoriaeth yr awdurdodau lleol, sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gwasanaethau Cerddoriaeth gan Huw Lewis, y cyn-Weinidog Addysg a Sgiliau, ym mis Mawrth 2015.  Cyhoeddwyd Adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru [PDF 539KB] ym mis Gorffennaf 2015. Roedd yr adroddiad yn rhoi braslun o’r gwasanaethau cerddoriaeth a ddarperir ar draws Cymru ar y pryd ac yn tynnu sylw at yr heriau sy’n bodoli o ran parhau i ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth o ansawdd uchel. Roedd hyn yn cynnwys cynnal a datblygu darpariaeth gwasanaethau cerddoriaeth o ansawdd uchel yng nghyd-destun gostyngiad yng nghyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol ac yng nghyd-destun blaenoriaethau gwahanol.  Cyhoeddwyd dau adroddiad cynnydd, Grŵp gorchwyl a gorffen gwasanaethau cerddoriaeth: blwyddyn yn ddiweddarach [PDF 362KB] (Ebrill 2017) a Grŵp gorchwyl a gorffen gwasanaethau cerddoriaeth: adroddiad cynnydd terfynol [PDF 541KB]

Fel y nodwyd yn llythyr y Gweinidog Addysg at y Pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £3 miliwn ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd rhwng 2018 a 2020 i gefnogi’r gwasanaethau cerddoriaeth a ddarperir.

3.        Gweithgareddau’r Cynulliad

Deisebau blaenorol

Ym mis Mehefin 2015, bu’r Pwyllgor Deisebau yn trafod deiseb (P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru) gan Friends of Bridgend Youth Music a oedd yn gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu hyfforddiant cerddorol mewn ysgolion, ac yn arbennig i:

§  ailgyflwyno’r broses o glustnodi cyllidebau’n ganolog ar gyfer hyfforddiant offerynnol proffesiynol mewn ysgolion;

§  gweithredu strategaeth genedlaethol i wrthdroi’r dirywiad yng Ngherddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru;

§  cynnig i blant a phobl ifanc yng Nghymru eu hawl i gael addysg sy’n datblygu eu personoliaethau, eu talentau a’u galluoedd unigryw i’r eithaf.

Ar ôl gohebu â'r Gweinidog Addysg, CLlLC a CBAC, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd dim arall y gallai ei wneud i fynd â'r mater yn ei flaen.  Caewyd y ddeiseb yn 2016.

Ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Yn dilyn pleidlais gyhoeddus, cynhaliodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati. Cyhoeddwyd ei adroddiad, Taro'r Tant [PDF 1MB] ym mis Mehefin 2018.  Argymhelliad cyffredinol y Pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau cerddorol i gorff cenedlaethol hyd braich, a dylai Lywodraeth Cymru ddarparu’r arian craidd ar ei gyfer.  Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, yn amodol ar ganlyniad astudiaeth ddichonoldeb i nodi ac asesu’r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau cerddoriaeth.

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai Llywodraeth Cymru baratoi Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth.  Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad, cytunodd y Gweinidog Addysg y byddai'n estyn yr astudiaeth ddichonoldeb i archwilio creu cynllun ar gyfer addysg cerddoriaeth (yn hytrach na cherddoriaeth yn gyffredinol).

Yn ei llythyr at y Pwyllgor, mae'r Gweinidog yn cadarnhau bod contract wedi cael ei ddyfarnu i gynnal yr astudiaeth ddichonoldeb, a fydd hefyd yn gofyn a ddylid fod Cynllun Cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth.

4.        Darpariaeth yn Lloegr a'r Alban

Lloegr

Ym mis Tachwedd 2011, cyhoeddodd yr Adran Addysg ac Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon,The Importance of Music, A National Plan  for Music. Dywedodd y Llywodraeth mai nodau'r cynllun cenedlaethol oedd galluogi plant o bob cefndir a phob rhan o Loegr i gael y cyfle i ddysgu offeryn cerddorol; creu cerddoriaeth gydag eraill; dysgu canu; a chael y cyfle i wneud cynnydd wrth ddatblygu eu galluoedd cerddorol.

Mae'r cynllun cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth yn berthnasol i bob ysgol, gan gynnwys academïau ac ysgolion rhydd, ac mae'n parhau i fod yn rhan o bolisi addysg cerddoriaeth y Llywodraeth bresennol. Bydd y cynllun cenedlaethol yn rhedeg tan 2020.

Yn dilyn proses ymgeisio a gynhaliwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, sefydlwyd 123 o ganolfannau addysg cerddoriaeth, a ddechreuodd ar eu gwaith ym mis Medi 2012. Mae’r canolfannau yn ffederasiynau o sefydliadau lleol sydd â diddordeb mewn addysg cerddoriaeth. Gallant gynnwys ysgolion a sefydliadau addysgol eraill, yn ogystal â sefydliadau celfyddydol a cherddorol. Dywedodd yr Adran Addysg mai pwrpas y canolfannau addysg cerddoriaeth oedd gwella ansawdd a chysondeb addysg cerddoriaeth ar draws Lloegr yn yr ysgol a'r tu allan iddi.

Mae canolfannau addysg cerddoriaeth yn cael cyllid gan sawl ffynhonnell wahanol. Maent yn cael cyllid gan y llywodraeth ganolog a ddyrennir yn ôl fformiwla sy'n cyfateb i gyfanswm nifer y disgyblion a nifer y disgyblion ym mhob ardal sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr yn gweithredu fel deiliad y gronfa ar ran yr Adran Addysg ar gyfer y cyllid canolog hwn.  Yn y flwyddyn ariannol 2018/19, rhoddodd yr Adran Addysg £75 miliwn o gyllid i ganolfannau addysg cerddoriaeth.

Ysgolion wnaeth y cyfraniad ail fwyaf at gyllidebau canolfannau addysg cerddoriaeth. A rhieni wnaeth y cyfraniad trydydd mwyaf at gyllidebau canolfannau addysg cerddoriaeth yn 2018/19. Roedd grantiau a chyfraniadau awdurdodau lleol yn cynrychioli cyfran llawer llai o gyllid ar gyfer canolfannau addysg cerddoriaeth.

Yr Alban

Yn yr Alban, mae awdurdodau lleol yn ystyried bod hyfforddiant cerddoriaeth offerynnol yn wasanaeth dewisol ac ar wahân sy’n ategu'r cwricwlwm cerddoriaeth, sef sefyllfa debyg i’r hyn a geir yng Nghymru.  Mae pob awdurdod lleol yn rheoli ei Wasanaeth Cerddoriaeth Offerynnol ei hun ac mae pob un yn gallu gosod ei ffioedd ei hun (os o gwbl), y taliadau llogi ar gyfer offerynnau a, lle mae ffioedd yn berthnasol, unrhyw eithriadau neu gyfraddau consesiynol. Cyhoeddodd Senedd yr Alban adroddiad, A note of concern: The future of instrumental music tuition in schools ym mis Ionawr 2019.  Nodwyd yn yr adroddiad:

The Committee respects the democratic right of local authorities to take decisions about local expenditure and acknowledge the financial choices they face. However, the Committee believes in principle that music tuition should be provided free of charge in every local authority.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.